Mae sylfaenydd WikiLeaks, Julian Assange, wedi ei ryddhau ar fechnïaeth gan yr Uchel Lys yn Llundain.

Gwrthododd y barnwr apêl yn erbyn penderfyniad llys yn gynharach yr wythnos yma i ryddhau Julian Assange ar fechnïaeth hyd nes y bydd yn cael ei symud i Sweden.

Mae awdurdodau Sweden eisiau cael gafael ar Julian Assange sy’n wynebu honiadau o drosedd rhywiol yno.

Roedd Julian Assange yn bresennol yn ystafell y llys oedd yn orlawn o bobol wrth i’r Ustus Ouseley ganiatáu ei ryddhau ar fechnïaeth.

Dathlodd cefnogwyr Julian Assange oedd wedi ymgasglu yn y glaw trwm y tu allan i’r llys.

“Dyw datgelu troseddau rhyfel ddim yn drosedd,” medden nhw.