Mae Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, Syr Michael Lyons, wedi dweud wrth ASau nad ydi’r BBC yn gwbl hapus ynglŷn ag ariannu S4C.
Dywedodd mai S4C oedd yr elfen roedd y BBC yn fwyaf “pryderus” ynglŷn ag ef yn y setliadau trwydded teledu.
Roedd yn siarad o flaen pwyllgor sy’n arolygu’r adran diwylliant, cyfryngau a chwaraeon, a wnaeth y penderfyniad i roi S4C dan adain y BBC.
Dywedodd Syr Michael Lyons nad oedd y BBC eisiau i bobol feddwl bod y gorfforaeth wedi gofyn am gael ariannu S4C.
“Roedd yn rhan o gytundeb, ac roedden ni’n bryderus iawn ynglŷn â gorfod [ariannu S4C],” meddai.
“Roeddwn i’n gwybod bod annibyniaeth S4C yn bwnc yr oedd pobol yng Nghymru yn teimlo’n gryf iawn amdano.
“Dyw’r BBC ddim eisiau rhoi’r awgrym mai ni oedd y tu ôl i’r syniad yma.
“Pan ydach chi mewn trafodaethau weithiau mae’n rhaid derbyn pethau nad ydach chi eu heisiau.”
Llanast
Dywedodd yr AS Llafur, David Cairns, bod S4C yn llanast, ac na ddylai’r BBC orfod cymryd cyfrifoldeb drosto.
“I rywun o’r tu allan maer S4C yn ymddangos yn hurt bost, gyda phawb yn ymddiswyddo neu’n cael eu diswyddo,” meddai.
“Onid ydi’r Ysgrifennydd Diwylliant wedi rhoi BBC Cymru ynddi braidd?”