Mae pryder na fydd gwaith gan ysgolheigion Cymraeg yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol am fod Gwasg y Brifysgol wedi colli ei nawdd.
Fis Medi fe benderfynodd y Cyngor Cyllido Addysg Uwch – HEFCW – roi’r gorau i roi grant blynyddol o £132,000 i Wasg y Brifysgol, sy’n cyhoeddi 15 o lyfrau academaidd y flwyddyn.
“Mae Gwasg y Brifysgol yn allweddol i bob prifysgol yng Nghymru, ac i bawb sy’n ymboeni am ysgolheictod sy’n ymdrin â Chymru,” meddai Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd.
“Swm cymharol bitw ydy [£132,000] yng nghyd-destun cyllid Addysg Uwch, cyfran fechan fechan… ond yn nhermau ei effaith, mae’n fawr iawn iawn.
“Mae hi’n mynd i fod yn lot anoddach i gyhoeddi gwaith ar Gymru, achos dim ond drwy Wasg y Brifysgol mae modd gwneud hynny… tydi gweisg Lloegr, ar y cyfan, ddim eisiau cyffwrdd cyhoeddiadau ysgolheigaidd yn yr iaith Gymraeg.”
Yr arian yma wnaeth dalu am gyhoeddi cyfrol Rhoi Cymru’n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru Cyfrol Un gan Richard Wyn Jones, ond fis yn ôl cafodd wybod gan Wasg y Brifysgol nad oedd hi’n gallu cyhoeddi’r ail gyfrol.
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 16 Rhagfyr