Gyda rhagor o eira’n cael ei addo yn ystod y dyddiau nesa’, mae cwmni moduro’n dweud nad yw gyrwyr yn paratoi’n iawn.
Yn ôl arolwg gan Populus i’r AA dyw 44% o’r 15,927 o bobol a gafodd eu holi ddim wedi gwneud dim byd i geisio ymdopi gyda’r amodau gaeafol.
Dynion rhwng 25 a 34 oed oedd fwyaf tebygol o wneud dim a gyrwyr dros 65 oed oedd fwya’ tebygol o baratoi.
Y canlyniadau
• Roedd 39% o’r rhai a holwyd wedi rhoi rhaw neu flancedi yn eu ceir gyda 19% wedi prynu esgidiau cadarn.
• Mae 6% wedi gwneud trefniadau gyda theulu neu ffrindiau i gael lle i aros pe baen nhw’n sownd yn yr eira.
• Mae 3% wedi prynu teiars gaeaf a 1% wedi prynu cadwynau eira ar gyfer eu teiars.
• Mae 51% wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl i’r graeanu fod yn well eleni na llynedd gyda 41% yn credu bydd rhywbeth tebyg gyda’r gweddill yn disgwyl i’r sefyllfa fod yn waeth.
• Gyrwyr yn yr ardaloedd sydd wedi profi’r tywydd gaeafol gwaethaf hyd yn hyn – gogledd ddwyrain Lloegr a’r Alban – oedd fwyaf tebygol o ddweud y bydd graeanu’n waeth eleni.
‘Pryder’
“R’yn ni’n pryderu nad yw rhai gyrwyr ddim wedi paratoi digon ar gyfer yr amodau gaeafol ar y ffyrdd,” meddai llywydd yr AA, Edmund King.
“Fe fydd awdurdodau ffyrdd o dan bwysau mawr wrth i’w cyflenwadau halen ddod dan bwysau wrth i’r cyfnod rhewllyd barhau.”
“Mae teiars gaeaf yn dod yn fwy poblogaidd yn y Deyrnas Unedig yn enwedig yn yr ardaloedd sy’n cael eu heffeithio’n aml gan y tywydd garw.”
Llun: Cadwyni eira (Halfords)