Mae dyn yn yr Almaen wedi cael ei wella o glefyd AIDS, trwy drawsblaniad gwaed ar gyfer lwcemia.
Mae’n ymddangos fod triniaeth i drawsblannu celloedd o waed person arall ar gyfer ei lwcemia wedi rhoi genynnau gwrthsefyll HIV i’r gŵr sydd, erbyn hyn, yn ei bedwardegau.
Fe gafodd y celloedd bôn eu rhoi i’r dyn yn 2007 er mwyn trin ei lwcemia, ond roedd gan y rhoddwr enynnau sy’n gallu gwrthsefyll HIV.
Dair blynedd yn ddiweddarach, does dim arwydd o lwcemia na chlefyd HIV yn ei waed bellach, yn ôl yr adroddiad yn y cyfnodolyn ‘Blood’.
Peryglon y driniaeth
Mae doctoriaid yn rhybuddio nad yw’r driniaeth a gafodd yr Almaenwr yn ymarferol ar gyfer defnydd estynedig yn erbyn HIV ac AIDS.
“Gallwn ni ddim defnyddio’r math yma o driniaeth ar unigolion iach oherwydd bod y peryglon yn rhy uchel,” meddai Dr Michael Saag, o Brifysgol Alabama, sy’n gyn-Gadeirydd ar Gymdeithas Feddyginiaeth HIV.
“Mae’n ddiddorol i wybod y byddai claf, gyda chamau eithriadol, yn gallu cael iachâd oddi wrth HIV,” meddai, cyn pwysleisio bodd moddion effeithiol ar gael bellach i reoli HIV.
Er mwyn i’r driniaeth gelloedd lwyddo, mae’n rhaid dinistrio system imiwnedd naturiol y corff drwy ddefnyddio cyffuriau cryf ac ymbelydredd, cyn tyfu system imiwnedd newydd i’r claf gan ddefnyddio celloedd y rhoddwr.
Mae’r risg o farwolaeth yn ystod y driniaeth yn uwch na 5% ac mae’n driniaeth ddrud, yn ôl Dr Saag – fyddai hi ddim yn debyg o gael ei hystyried os na fyddai claf yn dioddef o ganser hefyd.
Llun:P HIV-1