Mae’r adroddiadau diweddara’n awgrymu bod AS Canol Caerdydd, Jenny Willott, wedi ymddiswyddo o’i swydd yn gynhorthwy-ydd i un o weinidogion y Democratiaid Rhyddfrydol, a hynny tros ffioedd prifysgol.

Yn y cyfamser, mae protestiadau y tu allan i Dŷ’r Cyffredin wedi troi’n hyll gydag o leia’ wyth o bobol wedi eu hanafu, nifer o bobol wedi eu harestio a thri heddwas yn yr ysbyty, un gydag anaf difrifol.

Roedd miloedd wedi casglu yn Sgwâr y Senedd ac, fel y digwyddodd hi yn Llundain y mis diwetha’, fe ddechreuodd criw bychan ymosod ar adeiladau a chynnau tanau.

Mae’r heddlu wedi cau’r protestwyr i mewn i un rhan o’r Sgwâr wrth geisio rheoli’r gwrthdaro.

Jenny Willott – cyfyng gyngor

Roedd Jenny Willott wedi bod mewn cyfyng gyngor prun ai i atal ei phleidlais neu bleidleisio yn erbyn polisi ei Llywodraeth ei hun i godi ffioedd prifysgol o ychydig tros £3,000 i hyd at £9,000 y flwyddyn.

Mae hi’n cynrychioli sedd lle mae miloedd o fyfyrwyr yn byw ac roedd hi, fel gweddill y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi addo cyn yr etholiad i wrthwynebu ffioedd annheg.

Mae hi’n ymddangos bellach ei bod wedi penderfynu pleidleisio yn erbyn sy’n golygu rhoi’r gorau i’w swydd ar waelod ysgol y gweinidogion.

Mae’r ddau AS Rhyddfrydol arall o Gymru, Mark Williams a Roger Williams, hefyd am bleidleisio yn erbyn.

Llun: Jenny Willott