Fe fu’n rhaid i delynores ifanc o Gymru sgwatio a byw allan o finiau tai a busnesau er mwyn goroesi yn Llundain.
Mae Mali Llywelyn sy’n wreiddiol o Benarth ger Caerdydd bellach yn byw ym Merlin ers deufis – am na allai fforddio byw ym mhrifddinas Lloegr, meddai wrth Golwg 360.
Byddai rhent yn costio o leiaf £500 y mis yn Llundain, ond dim ond €150 y mis mae hi’n ei dalu yn ardal Kreuzberg Berlin, meddai.
Mae gan y delynores ifanc radd dosbarth cyntaf yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ac fe enillodd y rhuban glas dan 25 oed pan oedd yn 19.
Ond er gwaethaf ei gallu cerddorol roedd dod â dau ben llinyn ynghyd yn y brifddinas yn amhosib.
“Ar ol graddio yn yr haf, doedd gen i ddim benthyciad myfyriwr i barhau i rentu fy stafell i yn Brixton,” meddai wrth Golwg 360.
“Felly symudais i mewn i ‘squat’ am tua 6 mis lle ro’ ni’n gallu byw am ddim a pharhau i chwarae’r delyn – yn hytrach na gorfod dod o hyd i waith llawn amser a gwario pob ceiniog ar rent!”
Deifio i’r dumpster
Mae’r arfer o sgwatio yn eithaf cyffredin ymhlith artistiaid a cherddorion mewn dinasoedd mawr, meddai, oherwydd diffyg gwaith cyson a’r hyblygrwydd ariannol y mae trefniant o’r fath yn ei gynnig.
“Roedd gennym ni hyd yn oed sinema yn ein tŷ ni!! Yr unig beth gwael oedd nad oedd dŵr poeth gennym ni. Ond doedd hynny ddim yn broblem yn yr haf,” meddai’r Gymraes wrth sôn am ei phrofiadau’n sgwatio.
Roedd Mali Llywelyn yn “cael bwyd am ddim” drwy arfer a elwir yn “dumpster diving” – bwyta bwyd o finiau sbwriel tai a busnesau yn y ddinas – yn hytrach na phrynu bwyd o archfarchnadoedd.
Ond, daeth tro ar fyd iddi ar ôl i’r criw sgwatwyr eraill symud – a chafodd ei gadael yno ar ei phen ei hun gydag “un dyn arall gwallgof”.
“Penderfynodd o dorri’r cysylltiad trydan felly am wythnosau ro’ ni’n byw mewn tŷ gwag heb ddim golau – gyda dyn gwallgof!”
Un diwrnod, wrth iddi “benderfynu treulio noson gyfan mewn bwyty McDonalds 24 awr er mwyn gallu cael golau i ddarllen llyfr a pheidio gorfod mynd nôl i’r tŷ,” sylweddolodd nad oedd yn gallu dioddef byw yno rhagor.
“Gadawais i’r diwrnod canlynol mewn fan gyda’r delyn i Ferlin!” meddai Mali Llywelyn.
Kreuzberg
Mae hi bellach yn byw mewn fflat yn Kreuzberg gyda ffrind o’r Almaen.
“Mae’r sin gerddorol yn fywiog iawn yma – dinas yn llawn pobl ifanc, ac mae’n ymddangos fel bod pawb sy’n byw yma yn artist o ryw fath!” meddai.
“Mae’n anhygoel o rad i fyw yma o’i gymharu â Llundain.”
Perfformio ac arbrofi
Heno, fe fydd Mali Llywelyn yn perfformio mewn cyngerdd arbennig mewn hen felin ar lan Afon Spree yn ardal Kreuzberg.
Fe fydd hi’n perfformio Bach French suite rhif 3 a 2 breliwd gan Scriabin o opws 11 a 13.
Fe fydd hi hefyd yn chwarae darn arbrofol gan ei chyfaill Robert Szymanek sy’n cynnwys “glynu darnau o bapur a ffoil alwminiwm o gwmpas rhai o’r tannau fel eu bod nhw’n gwneud sŵn bzz!”
“Dw i’n meddwl mai dyma’r lle a’r gynulleidfa berffaith ar gyfer arbrofi! Mae’r lle yn llawn pobl artistic ifanc – arlunwyr, cerddorion o bob math a lot o gynhyrchwyr ffilm.”