Mae’r Crusaders wedi cyhoeddi mai cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, Barry Eaton yw hyfforddwr cynorthwyol newydd y clwb.

Mae Eaton yn ymuno ar ôl cyfnod gyda’r Keighley Cougars, ble’r oedd o’n brif hyfforddwr am bedair blynedd.

Fe helpodd y Cougars i ennill dyrchafiad i adran Pencampwriaeth Un yn 2009.

Fe chwaraeodd i Dewsbury Rams, Castleford Tigers, Widnes Vikings a’r Batley Bulldogs cyn ymuno â’r Keighley Cougars.

Roedd o hefyd wedi ennill pum cap i Gymru ac roedd yn rhan o’r garfan pan gyrhaeddodd y tîm rhyngwladol rownd cyn derfynol Cwpan y Byd yn 2000.

Dywedodd prif hyfforddwr y Crusaders, Iestyn Harris, a oedd wedi chwarae gydag Eaton yn nhîm Cymru, ei fod o wrth ei fodd gyda’r penodiad.

“Rwy’n hapus iawn bod Barry wedi ymuno â staff hyfforddi’r Crusaders. Roedd Barry yn chwaraewr gwych ac mae o wedi dangos ei ddoniau fel hyfforddwr hefyd,” meddai Iestyn Harris.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Barry. Fe fydd ei brofiad a’i wybodaeth o’r gêm yn ein gwneud ni’n dîm cryfach yn 2011.”

Dywedodd Barry Eaton ei fod o wedi bod yn awyddus i hyfforddi yn y Super League erioed a’i fod yn hapus iawn i gael y cyfle hynny gyda’r Crusaders.

“Roeddwn i wedi mwynhau fy amser yn Keighley ond roedd Iestyn Harris wedi gwerthu’r Crusaders i mi,” meddai.

“Mae gyda nhw uchelgais ac roedd y cyfle i weithio gyda chwaraewyr o’r safon uchaf yn gyfle rhy dda i’w wrthod.”