Mae rheolwr QPR, Neil Warnock wedi dweud nad yw’n awyddus i arwyddo ymosodwr Caerdydd, Michael Chopra.
Roedd yna adroddiadau bod y clwb sydd ar frig tabl y Bencampwriaeth yn awyddus i gryfhau eu carfan gan gynnig £3.5m am ymosodwr yr Adar Glas.
Mae Chopra hefyd yn ystyried chwarae i dîm rhyngwladol India ac mae gan QPR gynrychiolwyr o India ar fwrdd y clwb.
Mae yna son eu bod nhw’n awyddus i Chopra ymuno gyda QPR er mwyn codi proffil y clwb yn India.
Dyw Chopra ddim yn dechrau gemau yn gyson dros Gaerdydd, ac mae’r rheolwr, Dave Jones, yn ffafrio Jay Bothroyd a Craig Bellamy.
Ond mae Warnock wedi dweud na fydd lle i Michael Chopra yn nhîm QPR chwaith.
“Does gen i ddim byd yn erbyn Michael Chopra – mae’n chwaraewr da. Ond mae’n gweddu i dîm sy’n chwarae 4-4-2 a dydyn ni ddim yn chwarae fel yna,” meddai Neil Warnock wrth bapur Fulham and Hammersmith Chronicle.
“Fe fyddai’n werth cymryd golwg arno pe bai ar gael am bris rhad. Ond pan fydd y clwb yn canfod faint y mae’n ei gostio – siŵr o fod dros £3m – yn ogystal â’i gyflog, fe fyddan nhw’n ail-ystyried.”