Mae Barack Obama wedi arwyddo cyfraith newydd a fydd yn talu iawndal o £2.9bn i’r Indiaid Americanaidd a ffermwyr croenddu.

Mae’r mesur a gafodd ei arwyddo neithiwr yn cau pen y mwdwl ar achosion cyfreithiol yn ymwneud â hawliau’r Indiaid Americanaidd yn Arizona, New Mexico a Montana.

Mae dros 300,000 o Indiaid Americanaidd yn dweud nad ydi’r llywodraeth wedi talu breindal iddyn nhw ar ôl ymelwa ar adnoddau eu tir.

Fe fydd tua £760m o’r iawndal hefyd yn mynd i ffermwyr croenddu sydd heb eu talu’n iawn.

Roedd yr Arlywydd wedi addo yn ystod ei ymgyrch etholiadol y byddai’n ceisio datrys yr anghydfod, ac wrth arwyddo’r ddeddf dywedodd ei bod hi’n bryd “gwneud yn iawn” am annhegwch y gorffennol.

Dywedodd Elouise Cobell, a oedd wedi mynd a’r achos i’r llys ar ran Indiaid Americanaidd, nad oedd hi wedi disgwyl i’r gyfraith cael ei basio yn ystod ei hoes.

Roedd hi wedi dechrau’r achos yn hawlio iawndal 15 mlynedd yn ôl.

“Mae’r diwrnod yma’n un pwysig i’r bobl hŷn am ei fod o’n golygu eu bod wedi cael cyfiawnder,” meddai.

“Dyw’r arian ddim yn bwysig. Beth sy’n bwysig yw’r cyfiawnder.”

Mae’r Blaid Weriniaethol wedi codi pryderon y byddai rhai perchnogion tir yn dweud celwydd er mwyn hawlio arian er nad oedd cam yn eu herbyn.