Mae o leiaf 81 o bobl wedi marw ar ôl i dân gychwyn yn ystod gwrthdaro mewn carchar yn Chile.

Dyma’r drychineb waethaf erioed yn hanes system carchar y wlad. Mae’n debyg bod y tân yng ngharchar San Miguel wedi cael ei ddechrau’n fwriadol.

Dywedodd Gweinidog Mewnol llywodraeth Chile, Rodribo Hinzpeter, bod y tân wedi mynd y tu hwnt i reolaeth o fewn munud.

Tair awr yn ddiweddarach roedd y gwasanaethau brys yn dal i geisio diffodd y fflamau.

Cyrhaeddodd y gwasanaeth tân naw munud ar ôl derbyn galwad ffôn oddi wrth un o’r carcharwyr.

Fe ffoniodd un carcharwr orsaf deledu yn gofyn am help ac roedd gwylwyr yn gallu clywed sgrechian yn y cefndir wrth i’r tân ledaenu.

Dywedodd carcharwr arall wrth raglen deledu bod y tân wedi dechrau ar ôl i ffwrn syrthio i’r llawr yn ystod y gwrthdaro.

Mae’r heddlu yn mynnu eu bod nhw wedi ymateb yn gyflym i’r tan, ac yn ceisio ymdopi gyda 1,900 o garcharorion mewn carchar a oedd wedi cael ei adeiladu ar gyfer 700.

Roedd yna rybuddion eisoes bod amodau byw yn wael yng ngharchardai’r wlad.

Dywedodd cyfarwyddwr Sefydliad Cenedlaethol Hawliau Dynol Chile, Lorena Fries, bod gan Chile 55,722 o garcharorion ond dim ond 31,576 o lefydd ar eu cyfer.