Mae yna newid hwyr i ornest Nathan Cleverly yn yr Echo Arena nos Sadwrn.
Fe fydd y Cymro’n wynebu Nadjib Mohammed ar ôl i Alejandro Lakatos ddioddef pwl o niwmonia.
Mae Mohammed wedi colli un gornest yn unig yn y 24 diwethaf, ond dyw e erioed wedi ymladd tu allan i Ffrainc.
Fe fydd Cleverly yn awyddus i sicrhau buddugoliaeth arall wrth iddo dargedu blwyddyn brysur yn 2011 pan mae disgwyl iddo herio Jürgen Brähmer am goron y byd.
Mae Nathan Cleverly wedi dweud ei fod o hefyd yn awyddus i ddangos ei ddoniau o flaen torf Lerpwl gyda gornest yn erbyn y bocsiwr o’r ddinas, Tony Bellew, yn 2011.