Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi galw ar y BBC i ailystyried y penderfyniad nad oes rhaid i Gyfarwyddwr nesaf BBC Cymru feddu ar sgiliau dwyieithog.
Dywedodd y Bwrdd y byddai angen i’r cyfarwyddwr newydd allu siarad Cymraeg er mwyn gweithio gyda S4C pan ddaw’r sianel dan adain y gorfforaeth yn 2013.
Mae hysbyseb bellach wedi ymddangos ar wefan y BBC ac yng nghylchgrawn Golwg yn hysbysebu am swydd Cyfarwyddwr Cymru.
Ond nid yw sgiliau dwyieithog yn ofynion hanfodol. Yn ôl yr hysbyseb mae’r gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg yn “ddymunol” yn unig.
Yn dilyn hynny mae Bwrdd yr Iaith wedi cyhoeddi llythyr o gyngor a anfonwyd at Mark Thompson, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, yn dweud bod angen ailfeddwl.
“Ym marn y Bwrdd ni fedrai Cyfarwyddwr BBC Cymru gynnal perthynas weithio effeithiol gyda phartneriaid ac S4C heb y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg,” meddai’r llythyr.
Y Gymraeg yn ‘hanfodol’
Dywedodd y Bwrdd ei bod hi’n rhan o genhadaeth y BBC i adlewyrchu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, gan gynnwys iaith y cymunedau hynny.
Ychwanegodd ei bod hi’n hanfodol i Gyfarwyddwr BBC Cymru feddu ar sgiliau iaith sy’n caniatáu iddo ef neu hi adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru, wrth gynrychioli’r BBC yn gyhoeddus.
“Mae’r swydd hon yn un o’r swyddi amlycaf yng Nghymru o ran ei statws cyhoeddus. Yn hanesyddol bu Cyfarwyddwyr BBC Cymru yn rhugl ddwyieithog ac nid ar hap y mae hynny wedi digwydd, ond gan fod hynny’n hanfodol er mwyn cyflawni cyfrifoldebau’r swydd,” meddai Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
“Bydd angen i ddeiliad newydd y swydd gyfathrebu’n effeithiol gyda gweithlu a chynulleidfa ddwyieithog a chydweithio’n agos â chynhyrchwyr a darlledwyr teledu yng Nghymru, gan gynnwys rhai sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Pe bai’r BBC yn dod yn gyfrifol am ariannu S4C yn y dyfodol, gallai hyn ddod yn fwyfwy pwysig.
“Ni welwn sut y gall y Cyfarwyddwr gyflawni’r swyddogaeth o gynrychioli’r BBC yn gyhoeddus o fewn gwlad ddwyieithog heb iddo neu iddi allu siarad Cymraeg yn rhugl. Mae’r Bwrdd wedi rhoi cyngor i’r BBC ar ofynion sgiliau iaith y swydd hon a hyderwn y dilynir y cyngor hwnnw wrth ail ystyried anghenion sgiliau’r swydd. Arhoswn am dderbyn ymateb y BBC i’r cyngor a roddwyd.”
Y Llythyr at Mark Thompson
Annwyl Mr Thompson
Deallaf y bydd Cyfarwyddwr presennol BBC Cymru, Menna Richards, yn gadael ei swydd ym mis Chwefror ac felly y bydd angen penodi olynydd iddi. Adroddwyd yn y wasg yn ddiweddar nad oes disgwyl i sgiliau Cymraeg fod yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Yn sgil y datganiad hwnnw, hoffwn gynnig cyngor ar ofynion sgiliau iaith y swydd a gofyn am gadarnhad, maes o law, o’r gofynion hynny.
Mae’r BBC yn gweithredu cynllun iaith Gymraeg statudol yn unol â’i ddyletswyddau dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Mae’r cynllun yn ymrwymo’r gorfforaeth i fod yn “….eglur ynglŷn a galluoedd ieithyddol aelodau’r staff” wrth gynnal ymarferiadau recriwtio. Mae dynodiad rhagofynion sgiliau iaith o fewn deunydd recriwtio’n mynnu yn y lle cyntaf asesiad o’r anghenion hynny. Atodaf gyngor ar sut i gynnal yr asesiad hwnnw, yn unol â dyletswydd statudol y Bwrdd dan Adran 3 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 i gynghori sefydliadau cyhoeddus ar faterion ym ymwneud â’r iaith Gymraeg. Hyderaf y bydd y cyngor o ddefnydd wrth baratoi ar gyfer recriwtio Cyfarwyddwr newydd BBC Cymru.
Byddwn yn ddiolchgar am dderbyn cadarnhad am ofynion sgiliau dwyieithog y swydd uchod, wedi i chi benderfynu ar hynny.
Yn gywir
Meirion Prys Jones
Prif Weithredwr