Mae cynrychiolwyr o bwyllgor Olympaidd Rwsia yn ystyried gwneud prifddinas Cymru yn gartref yn ystod Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain.
Mae cynrychiolwyr o’r wlad eisoes wedi ymweld â rhai o gyfleusterau Caerdydd gan gynnwys Stadiwm SWALEC, y Canolfan Athletau Cenedlaethol Dan Do, Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd a Phentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd.
Ymysg y cynrychiolwyr o Rwsia roedd yr Is-weinidog Chwaraeon, Twristiaeth a Pholisi Ieuenctid y wlad, Pavel A Kolobkov, a enillodd y fedal aur yng nghystadleuaeth ffensio Gemau Sydney yn 2000.
Daw’r newydd ar ôl i ynysoedd Trinidad a Tobago gyhoeddi’r wythnos diwethaf eu bod nhw wedi dewis Caerdydd yn gartref i’w tîm Olympaidd ar gyfer gemau 2012.
Mae timau Paralympaidd Awstralia a De Affrica hefyd wedi dewis prifddinas Cymru yn gartref yn ystod y Gemau yn Llundain.
“Roedden ni’n hapus iawn o gael croesawu pwyllgor Olympaidd Rwsia i Gaerdydd yr wythnos diwethaf ac rwy’n gobeithio bod y daith wedi bod o fudd,” meddai’r Cynghorydd Rodney Berman.
“Mae Caerdydd wedi sefydlu ei hun yn ddinas flaenllaw ar gyfer chwaraeon dros y blynyddoedd diwethaf.
“Fe fydd denu timau Olympaidd yma yn hwb economaidd, diwylliannol ac addysgiadol i’r ddinas.”