Mae’r fyddin wedi eu galw i brifddinas yr Alban ar ôl i’r eira mwyaf ddisgyn yno ers 1963.

Yn ôl y cyngor mae yna bryder nad ydi rhai o drigolion Caeredin yn gallu gadael eu cartrefi oherwydd y trwch eira sy’n gorchuddio’r strydoedd. Mae hyd at 30 modfedd wedi disgyn mewn rhai mannau.

Mae Cyngor Dinas Caeredin wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth yr Alban a’r Weinyddiaeth Amddiffyn er mwyn caniatáu i filwyr ddechrau symud yr ia a’r eira.

Mae yna bryder hefyd bod y tywydd gaeafol wedi arwain at brinder petrol mewn rhai rhannau o’r wlad am nad ydi tanceri yn gallu cyrraedd gorsafoedd petrol.

Dywedodd Heddlu Strathclyde bod tua 40% o orsafoedd petrol yr ardal yn brin o danwydd. Mae disgwyl i bethau wella wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen.

Clirio’r ffyrdd

Bydd y milwyr yng Nghaeredin yn canolbwyntio ar gartrefi’r bregus a’r henoed, yn ogystal â meddygfeydd, cartrefi gofal ac ysbytai.

“Caeredin yw’r awdurdod cyntaf yn yr Alban i ofyn am gymorth y fyddin er mwyn sicrhau bod ein trigolion mwyaf bregus yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw,” meddai’r Cynghorydd Robert Aldridge.

“Bydd ein gweithwyr ni hefyd yn parhau i glirio eira a graeanu’r ffyrdd.”

Mae disgwyl tywydd rhywfaint yn gynhesach ar draws Prydain heddiw wrth i awelon cynnes chwythu i mewn o’r Iwerydd.

Dyw rhai rhannau o’r Alban heb weld tymheredd dros 0C ers pythefnos.