Mae cwmni arfau BAE Systems wedi cyhoeddi y byddan nhw’n torri 1,300 o swyddi cyn y Nadolig.

Mae undebau wedi beirniadu’r penderfyniad, a ddaw yn fuan wedi penderfyniad Llywodraeth San Steffan i dorri lawr ar wario ar amddiffyn.

Fe fydd y toriadau yn taro swyddi yn Samlesbury a Warton yn Swydd Gaerhirfryn, a Farnborough yn Hampshire, yn ogystal â RAF Cottesmore a RAF Kinloss.

Datgelodd y cwmni eu bod nhw hefyd yn ystyried cau safle Woodford yng Nghaer yng nghynt na’r disgwyl.

“Ers cyhoeddiad yr Adolygiad Amddiffyn Strategol ym mis Hydref rydym ni wedi bod yn ystyried beth yw’r goblygiadau i’n busnes ni,” meddai cyfarwyddwr y cwmni, Kevin Taylor.

“Mae ein cwmni ni’n gynaliadwy ac mae gyda ni gynllun busnes cryf. Rydw i’n gwerthfawrogi fod hyn yn newyddion anodd i’n gweithwyr ac rydym ni eisiau cydweithio gyda nhw er mwyn lleddfu rywfaint ar y toriadau.”

Dywedodd Bernie Hamilton, swyddog cenedlaethol United bod y newyddion yn “drychinebus i Brydain a’r gweithlu”.

“Anrheg Nadolig y Llywodraeth i filoedd o weithwyr medrus ydi eu diswyddo. Mae gweithwyr BAE yn annog y Llywodraeth i ailfeddwl eu penderfyniad.”