Mae pedwar dyn o ardal Blaenau’r Cymoedd wedi’u harestio ac yn cael eu holi mewn cysylltiad â safle tirlenwi anghyfreithlon honedig yn Nhredegar.
Daw’r arestiadau yn dilyn cyrch oedd yn cynnwys dros 50 o swyddogion Asiantaeth Amgylchedd Cymru a Heddlu Gwent am 8.30am.
Mae ymchwiliadau cynnar yn awgrymu fod mwy na 20,000 tunnell o wastraff wedi ei daflu’n anghyfreithlon i’r safle tirlenwi.
Mae pryder bod y gweithgaredd yn bygwth glendid afonydd cyfagos, meddai Asiantaeth yr Amgylchedd heddiw.
Fe gafodd tri o’r dynion, 42, 43 a 34 oed, eu harestio ar safle cwmni rheoli gwastraff yn ardal Bryn-mawr. Fe gafodd pedwerydd dyn, 44 oed, ei arestio yn ardal Tredegar.
Aethpwyd a’r pedwar i Orsaf Heddlu Ystrad Mynach er mwyn eu holi.