Mae cyn ymosodwr Cymru, John Hartson (dde), wedi dweud bod mwy i ddod oddi wrth Craig Beattie ar ôl i’r Albanwr sgorio dwy gôl dros yr Elyrch yn erbyn Ipswich.
Dywedodd Beattie ei fod wedi dysgu lot oddi wrth John Hartson pan oedd y ddau yn chwarae i Celtic a bod ei dechneg wedi’i helpu i sgorio’r gôl gyntaf yn erbyn Ipswich.
“Bydden i wrth fy modd o feddwl mod i wedi helpu Craig a’r Elyrch mewn unrhyw ffordd,” meddai Hartson wrth wefan Abertawe.
“Rwy’n falch iawn drosto – mae o wedi cael amser gwael iawn gydag anafiadau. Fe fyddai nifer o chwaraewyr ddim wedi dod ‘nôl, ond mae o wedi bod yn amyneddgar ac wedi brwydro ‘nôl.”
Roedd Hartson yn credu bod ail gôl yr Albanwr yn ymdrech unigol ardderchog er mwyn sicrhau’r fuddugoliaeth.
“Rydw i wedi gweld Craig yn gwneud hynny sawl gwaith wrth ymarfer. Mae ganddo’r gallu ac rwy’n tybio nad ydi cefnogwyr Abertawe wedi ei weld o ar ei orau eto.
“Os fydd y tîm yn parhau i roi’r cyfle iddo, does dim amheuaeth y bydd Craig yn sgorio.”
Fe fydd Abertawe’n wynebu Millwall mewn gêm Bencampwriaeth yn Stadiwm Liberty nos yfory.