Mae barnwr wedi gorchymyn i gyngor cymuned yn y gogledd dalu am ferlod mynydd a gafodd eu gwerthu heb ganiatad y perchennog.

Mae un o’r cynghorwyr yn paratoi cwyn i’r Ombwdsmon gan gyhuddo ei gyd-aelodau o ddwyn anfri ar y cyngor ac mae pryder y bydd trethi lleol yn codi yn sgil y dyfarniad.

Yn ôl y barnwr mewn achos sifil a ddygwyd gan William Jones o Fethesda, roedd cyngor plwyf Llanllechid wedi gweithredu’n anghyfreithlon wrth benderfynu ym mis Tachwedd 2009 symud ei ferlod o’r mynydd.

Mae gan y cyngor tan Ionawr 10 i dalu £1,830 i William Jones am saith o Ferlod y Carneddau a’i gostau cyfreithiol ac mae’r barnwr wedi gwrthod y cais am apêl.

“Mae gen i bryderon y gall yr achos yma olygu bod arian mawr yn dod allan o goffrau’r Cyngor ac y gall effeithio ar lefel trethiant lleol.” meddai Cadeirydd Cyngor Cymuned llallechid, Dafydd Meurig, sy’n bwriadu trefnu cyfarfod brys o’r cyngor cyn nos Lun i drafod y dyfarniad.

Ym mis Gorffennaf 1998 symudodd William Jones i Ganada i ffermio gan ddod i ddealltwriaeth gyda’i gymdogion, ac yn fwy diweddar ei gefnder, y bydden yn edrych ar ôl ei ferlod.

“Roedd y Cyngor Plwyf wedi gofyn i’r setiwr – sy’n cael ei gyflogi ganddyn nhw i hel y mynydd – i fynd i nôl y merlod.” meddai William Jones. “Un o reolau’r mynydd sydd yn mynd ymlaen ers cenedlaethau yw os ydach chi’n mynd a da byw rhywun arall oddi ar y mynydd yna mae’n rhaid eu rhoi nhw’n ôl i bwy bynnag sydd piau nhw.”

Hyd heddiw, mae’r Cyngor Cymuned yn gwrthod datgelu i le’r aeth y merlod.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 9 Rhagfyr