Mae’r llywodraeth yn gwrthod cadarnhau faint o geisiadau sydd wedi dod i law am arian i adnewyddu ysgolion o dan gronfa Ysgolion 21ganrif.

Ar drothwy’r dyddiad cau ar gyfer cynigion, roedd un o bwyllgorau’r Cynulliad yn galw ar y Llywodraeth i ddweud yn union faint o arian fyddai ei angen i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn addas i’w ddiben.

“Mae’n hanfodol—nawr fwy nag erioed—bod Llywodraeth Cymru’n sefydlu proses glir a phendant ar gyfer sicrhau bod pob adeilad ysgol yng Nghymru yn cyrraedd y safon,” meddai Jonathan Morgan, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn y Cynulliad.

Y pryder bellach gyda llai o arian yn y coffrau, yw bod angen sianelu’r arian yn fwy gofalus.

“Cyflwynwyd y rhaglen Ysgolion yr 21g ar adeg pan oedd mwy o arian ar gael ar gyfer prosiectau ar raddfa fawr.” meddai Jonathan Morgan.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ddangos sut mae’r rhaglen honno wedi cael ei haddasu yn yr hinsawdd ariannol newidiol hon. Rydym hefyd am weld yn union beth yw ystyr ‘addas i’r diben’ a phryd y caiff y safon angenrheidiol hwn ei gyrraedd.”

Galw am eglurdeb

Yn ystod yr wythnos bu rhieni o ddwy ardal yn tynnu sylw gwleidyddion Bae Caerdydd at eu pryderon am gynlluniau ad-drefnu.

Yng Ngherdigion, mae gwrthwynebiad i gynlluniau’r awdurdod addysg i godi ysgol newydd i blant 3-19 oed yn ardal Llandysul.

“R’yn ni’n cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ynglŷn â’r ysgol 3-19 yn Llandysul r’yn ni wedi rhoi at ei gilydd i ddangos barn rhieni a’r trigolion lleol am y cynllun,” eglura Gethin Jones wrth Golwg wrth i gynrychiolaeth o rieni gyflwyno adroddiad yn gwrthwynebu’r cynllun.

“R’yn ni’n dweud nawr bod Cyngor Ceredigion heb ymgynghori’n ddigon da gyda rhieni a thrigolion… Pan r’yn ni wedi trio dweud ein barn – r’yn ni wedi gwneud holiaduron ac yn y blaen iddyn nhw – dy’n nhw ddim wedi bod yn fodlon gwrando.”

Ar ôl ymgyrch hir mae rhieni ysgol Treganna yng Nghaerdydd, yn gobeithio y bydd cyngor y ddinas yn gwneud cais am arian i godi ysgol newydd i’w plant.

“O beth r’yn ni’n ddeall dyma’r rownd olaf o arian fydd yn cael eu cyhoeddi cyn bod y toriadau yn dod i mewn,” meddai Nia Williams o ymgyrch Sardîns Treganna.

“Dyna pam r’yn ni mor awyddus i Gyngor Caerdydd gadw at ei hamserlen. R’yn ni’n deall eu bod nhw ac yn croesawu hynny. Gan mai’r weinyddiaeth bresennol sydd wedi gwrthod ceisiadau cyntaf Cyngor Caerdydd mae dyletswydd arnyn nhw nawr i ddatrys y broblem.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 9 Rhagfyr