Mae llywodraethwyr un o ysgolion Cymraeg Sir Gaerfyrddin wedi galw am gyfarfod brys gyda swyddogion addysg i drafod y galw am addysg Gymraeg yn yr ardal.
Yn ôl pennaeth Ysgol Gymraeg Rhydaman mae mwy o alw nag o le i ddisgyblion yn yr ysgol sydd eisoes â 220 o blant.
“Mae diffyg lle yn ysgol Gymraeg Rhydaman a mwy o alw ers dwy flynedd,“ meddai Geraint Davies sy’n dweud bod 47 o geisiadau eisoes wedi dod i law ar gyfer mis Medi y flwyddyn nesaf er mai dim ond lle i 31 o blant sydd yn y dosbarth derbyn.
“Mae’r llywodraethwyr wedi gofyn am gyfarfod gyda swyddogion Cyngor Sir Gaerfyrddin i drafod y sefyllfa.
“Ar hyn o bryd ac ers dwy flynedd mae plant yn colli’r cyfle i gael eu haddysg drwy’r Gymraeg.“ meddai Geraint Davies.
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 9 Rhagfyr