Doedd John Walter Jones ddim am i aelodau Awdurdod S4C wybod am ei fwriad i ymddeol.
Roedd am gadw’r peth yn gyfrinach rhyngddo ef â’r Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt, rhag i’w gyhoeddiad ddylanwadu ar y drefn o benodi Prif Weithredwr newydd i’r Sianel.
“Doeddwn i ddim eisiau i’r ffaith bo fi’n mynd gael ei ddehongli mewn ffordd fyddai wedi effeithio ar y broses o benodi Prif Weithredwr newydd,” meddai John Walter Jones.
Bythefnos yn ôl roedd wedi gwrthod trafod ei ymddeoliad mewn cyfarfod o Awdurdod S4C, a hynny yn yr un wythnos ag oedd pobol yn ymgeisio ar gyfer swydd y Prif Weithredwr.
“Doeddwn i ddim am ddweud dim ar adeg pan oedd pobol yn llenwi ffurflenni cais… roeddwn i am wneud fy mwriad yn hysbys ar ôl dyddiad cau swydd y Prif Weithredwr,” meddai John Walter Jones.
Mae’n dweud iddo rannu ei benderfyniad gyda Jeremy Hunt, er mwyn i hwnnw gael digon o amser i drefnu ar gyfer penodi Cadeirydd newydd.
Yn y diwedd torrodd y stori fod John Walter Jones yn ymddeol, gydag ansicrwydd ynghylch pryd yn union roedd am adael.
“Aeth y wasg a’r cyfryngau dros ben llestri yn ceisio dehongli’r penderfyniad,” meddai John Walter Jones, sy’n cyfaddef fod yr holl sylw ers i’r wybodaeth am ei ymddeoliad ddod i’r fei wedi bod yn “andwyol” i S4C.
Echddoe cyhoeddodd S4C na fydden nhw’n penodi Prif Weithredwr newydd tan fod yna Gadeirydd newydd ar yr Awdurdod.
Darllenwch weddill y stori yng ngylchgrawn Golwg, 9 Rhagfyr