Mae’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, wedi dweud mai dim ond Sion Corn allai fodloni galwadau rhai o Aelodau Seneddol ei blaid ei hun.
“Licen i fod yn Siôn Corn a gallu rhoi polisïau poblogaidd a chostus i bawb a pheidio gorfod gwneud penderfyniadau anodd,” meddai wrth raglen Daybreak ITV.
“Ond rhaid i’r Llywodraeth wneud penderfyniadau anodd a dyna ydym ni’n ei wneud.”
Daw ei sylwadau wrth i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, ddweud bod Aelodau Seneddol sy’n gwrthwynebu codi ffioedd dysgu yn “freuddwydwyr”.
Fe fydd y bleidlais ddadleuol ar gynyddu ffioedd dysgu yn cael ei chynnal yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw ac mae disgwyl i sawl un o ASau’r blaid bleidleisio yn erbyn.
Mae yna ddyfalu y gallai hyd at hanner y Dems Rhydd bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth, ond dywedodd Nick Clegg bod rhaid cefnogi’r cynlluniau am mai “dyna sut le yw’r byd”.
Dydd y Farn
Rhybuddiodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, bod y Llywodraeth yn San Steffan yn wynebu “dydd y farn” wrth i filoedd o fyfyrwyr brotestio ar draws y wlad.
Galwodd ar y Democratiaid Rhyddfrydol i gadw at eu haddewid cyn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai a phleidleisio yn erbyn y cynnydd mewn ffioedd dysgu.
“Heddiw fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn torri eu haddewid,” meddai Ed Miliband.
“Bydd gwrthod pleidleisio yn caniatáu i’r Llywodraeth gynyddu ffioedd dysgu. Rydw i’n galw ar bob Aelod Seneddol – gan gynnwys y Dems Rhydd – i bleidleisio yn erbyn y cynnydd.”
Dywedodd Nick Clegg nad oedd ganddo gywilydd ei fod o’n gorfod torri ei addewid i fyfyrwyr.
“Fe fyddwn i’n teimlo cywilydd os nad oeddwn i wedi delio gyda’r ffordd y mae’r byd go iawn, yn hytrach na breuddwydio ynglŷn â byd sydd fel y hoffwn iddo fod,” meddai’r Dirprwy Brif Weinidog.
“O dan yr amgylchiadau ydym ni’n ei wynebu, pan nad oes yna lot o arian i’w gael, pan mae miliynau o bobol eraill yn gorfod gwneud aberthiadau – rhaid dod o hyd i ateb.”