Gan y Cymry y mae’r dannedd gwaethaf ym Mhrydain, yn ôl adroddiad gan y Gwasanaeth Iechyd.
Yn ôl yr adroddiad, sydd yn cymharu iechyd deintyddol ar draws Prydain, yng Nghymru y ceir y canran uchaf o bobl sydd heb ddannedd naturiol, heb ddigon o ddannedd i fwyta’n gyfforddus, a’r nifer mwyaf o ddannedd pwdr.
Ar hyn o bryd, mae un o bob 10 o bobl yng Nghymru heb ddannedd naturiol, o’i gymharu â thri o bob 10 yn 1978.
Tra bod yr ystadegau’n awgrymu bod cyflwr dannedd Cymru yn gwella’n araf bach, mae’r wlad tua 20 mlynedd ar ei hôl hi o’i gymharu gyda Lloegr.
Doedd gan un o bob deg o bobol Lloegr ddim dannedd naturiol nôl yn 1978.
Llai o boen… meddwl
Serch hynny, yn ôl yr adroddiad mae mwy o bobol yng Nghymru yn ymweld â’u deintydd llawer yn amlach na phobl yn Lloegr.
Mae pobl sydd yn ymweld â’u deintydd yn rheolaidd, medd yr adroddiad, yn dioddef llai o boen meddwl ynglŷn â’u dannedd na’r rheiny sy’n cadw draw o’r ddeintyddfa.
Roedd 12% o’r rhai a gyfaddefodd nad oedden nhw erioed wedi bod at y deintydd yn dioddef o’r hyn a elwir yn “bryder deintyddol difrifol”.