Mae’r FBI wedi rhybuddio y gallai doliau Barbie sy’n cynnwys camerâu fideo gael eu defnyddio i greu pornograffi plant.
Mae’r tegan £32 yn boblogaidd iawn gyda phlant. Pwysleisiodd yr FBI nad yw’r rhybudd diweddaraf yn gysylltiedig ag unrhyw drosedd penodol.
Ond dywedodd yr FBI y dylai swyddogion ystyried y ‘Barbie Video Girl’, gan gwmni Mattel, wrth gynnal ymchwiliadau. Fe allai’r ddol fod yn dystiolaeth bosib yn ystod ymchwiliad i drosedd, medden nhw.
Mae gan y ddol sgrin fach ar ei chefn, ac mae’r golygfeydd yn cael eu recordio trwy gamera bach mewn mwclis ar wddf y ddol.
Gall y camera gael ei gysylltu i deledu neu gyfrifiadur, a gall ddal hyd at 30 munud o ffilm.
Wrth ymateb, dywedodd cwmni Mattel mai diogelwch plant oedd blaenoriaeth y cwmni.
“Mae cynnyrch Mattel wedi eu creu er budd plant bob tro,” meddai’r cwmni.
“Mae nifer o weithwyr Mattel yn rhieni eu hunain, ac rydym ni’n deall pwysigrwydd diogelwch plant.”
Yn ôl Gerrick Johnson, arbenigwr ar werthiant teganau plant, mae’r ddol camera yn boblogaidd gyda bechgyn a merched.
Dywedodd ei fod o’n gobeithio na fyddai sylw’r cyfryngau yn arwain at dynnu’r tegan o’r siopau.
“Dwi’n meddwl ei fod e’n syniad clyfar iawn, gan alluogi plant i greu fideos a’u huwchlwytho i’r cyfrifiadur,” meddai.