Mae bwrdd iechyd wedi penderfynu bwrw ymlaen gyda’r gwaith o dynnu asbestos o’r nenfwd uwchben y theatrau a’r coridorau yn Ysbyty Glan Clwyd yn gynt na’r disgwyl.

Cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y bydd y gwaith yn dechrau’n gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

Mae angen gwneud y gwaith er mwyn iechyd a diogelwch staff a chleifion ac er mwyn sicrhau dyfodol Ysbyty Glan Clwyd, medden nhw.

Bydd llawdriniaethau brys yn mynd yn eu blaen er gwaetha’r gwaith.

Fe fydd staff meddygol yn chwarae rhan yn y gwaith cynllunio er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael eu diogelu tra bod y gwaith “pwysig ac angenrheidiol” yn mynd yn ei flaen.

Gorffen erbyn y gaeaf

Mae’r Bwrdd yn gobeithio y bydd y gwaith o dynnu asbestos wedi’i orffen erbyn gaeaf y flwyddyn nesaf.

“Hoffen ni sicrhau cleifion, ymwelwyr a staff nad oes unrhyw risg uniongyrchol i’w diogelwch,” meddai’r Bwrdd.

Cafodd asbestos ei ddefnyddio wrth adeiladu Ysbyty Glan Clwyd a agorwyd yn ôl yn yr 1980au.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn gweithio ar y cyd â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am lawer o flynyddoedd ar y mater, ac wedi bod yn monitro ansawdd yr aer yn rheolaidd.