Mae’r Gernyweg a’r Fanaweg wedi eu cynnwys ar restr newydd byd-eang o ieithoedd sydd mewn perygl o ddiflannu.
Mae’r bas-data a gasglwyd at ei gilydd gan ymchwilwyr o Brifysgol Caergrawnt yn dangos bod 21 iaith ym Mhrydain mewn perygl o gael eu colli, gan gynnwys Arwyddiaith Hen Gaint.
Mae Piolari – iaith oedd yn cael ei defnyddio gan y gymuned hoyw hyd at y 70au – hefyd ar y rhestr. Mae’n debyg ei bod wedi datblygu o iaith oedd yn cael ei defnyddio yn yr 16eg ganrif.
Yn ôl y bas data mae’r Gernyweg, sydd â 600 o siaradwyr, “mewn perygl mawr”, y Fanaweg “yn iaith farw”, a’r Gymraeg, gyda 536,258 o siaradwyr, yn “fregus”.
Mae yna 3,524 iaith ar y bas data, ac mae tua 150 o’r rheini mewn cyflwr “hynod fregus” gyda dim ond llond llaw o bobol yn eu siarad nhw.
“Mae yna ambell i iaith sydd mewn perygl difrifol sydd wedi eu cofnodi’n helaeth, ond mae yna eraill sydd hefyd mewn perygl heb eu cofnodi o gwbl,” meddai Dr Mark Turin, cyfarwyddwr y prosiect.
Mae ymchwilwyr hefyd yn gobeithio casglu llên gwerin a chwedlau sy’n gysylltiedig gyda’r ieithoedd sydd mewn perygl.
Mae’r bas data ar gael fan hyn: www.oralliterature.org