Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi datgelu beth y bydden nhw’n ei dorri o gyllideb Cymru petaen nhw’n dod i rym yn dilyn Etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Cafodd y Ceidwadwyr eu beirniadu gan y pleidiau eraill fis diwethaf am ddweud y bydden nhw’n gwarchod y gyllideb iechyd heb ddweud sut y bydden nhw’n torri adrannau eraill.

Yn ôl Plaid Cymru a’r Blaid Lafur fe fyddai diogelu’r gyllideb iechyd yn golygu toriadau mawr i bob un o’r adrannau eraill.

Datgelodd y Ceidwadwyr heddiw y bydden nhw’n torri 30% o gyllideb yr Adran Economi a Thrafnidiaeth, a 30% o gyllideb yr Adran Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus.

Byddai’r adran Dreftadaeth yn wynebu tolc o 20%, Adran yr Amgylchedd yn gorfod arbed 25%, ac Adrannau’r Gwasanaethau Canolog yn wynebu toriadau o 25%.

Dywedodd y Ceidwadwyr y byddai cyllideb ddrafft Llafur a Phlaid Cymru yn tynnu £1 biliwn allan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol dros y tair blynedd nesaf.

Byddai peidio â diogelu’r gyllideb iechyd yn rhoi cleifion yng Nghymru dan anfantais o’i gymharu gyda chleifion yn Lloegr a’r Alban, ble mae’r gyllideb iechyd wedi ei gwarchod.

Fe fydden nhw hefyd yn rhewi cyflogau yn y sector gyhoeddus sydd dros £21,000 y flwyddyn.

“Mae’r Ceidwadwyr yn gwbl ymroddedig i warchod y gyllideb iechyd ac mae’r penderfyniad heddiw i gyhoeddi ein blaenoriaethau gwario yn brawf o hynny,” meddai’r Aelod Cynulliad David Melding.

“Rydym ni wedi treulio’r wythnosau diwethaf yn cyfansoddi ein hymateb i Gyllideb Ddrafft y Cynulliad. Mae o’n dangos bod amddiffyn iechyd yn fforddiadwy, yn bosib ac yn ddymunol.

“Rhwng nawr a’r bleidlais ar gyllideb derfynol Llywodraeth y Cynulliad ym mis Chwefror, fe fyddwn ni’n ymgyrchu’n ddyfal ar i Lafur a Phlaid amddiffyn y gyllideb iechyd.”

Y toriadau

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Llafur-Plaid – torri 7.6% ; Ceidwadwyr – torri 0.0%

Llywodraeth Leol a Chyfiawnder: Llafur-Plaid – torri 7.4%; Ceidwadwyr – torri 12..5%

Addysg, Plant a Dysgu Gydol Oes: Llafur-Plaid – torri 8%; Ceidwadwyr – torri 12%

Yr Economi a Thrafnidiaeth: Llafur-Plaid – torri 21.3%; Ceidwadwyr – torri 30%

Yr Amgylchedd a Thai: Llafur-Plaid – torri 21%; Ceidwadwyr – torri 25%

Materion Gwledig: Llafur-Plaid – torri 12.7%; Ceidwadwyr – torri 15%

Treftadaeth: Llafur-Plaid – torri 13%; Ceidwadwyr – torri 20%

Gwasanaethau Cymdeithasol a Pherfformiad: Llafur-Plaid – torri 24.4%; Ceidwadwyr – torri 30%

Gwasanaethau Canolog: Llafur-Plaid – torri 19.1% Ceidwadwyr – torri 25%