Mae gyrrwr tram o Blackpool wedi ei garcharu am 15 mis ar ôl i’r tram yr oedd o’n ei yrru daro dynes o dde Cymru. Fe fuodd hi farw yn ddiweddarach.
Clywodd y llys bod Paul Edensor yn gyrru tair gwaith dros y cyflymder uchaf, sef 4 milltir yr awr.
Roedd Maureen Foxwell, 70, yn dathlu ei phen-blwydd priodas gyda’i gwr Barry, 70, pan gafodd ei tharo i lawr gan y tram ar y promenâd ym mis Awst y llynedd.
Torrodd Maureen Foxwell, o Gaerffili, ei phenglog ac fe fu farw mis yn ddiweddarach.
Plediodd gyrrwr y tram, Paul Edensor, 36, o Alexander Road, Thornton Cleveleys, Swydd Gaerhirfryn, yn euog i yrru’n ddiofal fis diwethaf.
Dedfrydwyd ef yn Llys y Goron Preston heddiw.
Dywedodd yr erlynydd Kirsten McAteer bod Maureen Foxwell yn cerdded ar draws croesfan gyda’i gŵr ger gorsaf dramiau pan gafodd ei tharo gan y tram.
Roedd y pâr priod yn gobeithio dal tram eu hunain er mwyn teithio yn ôl i ganol y dref. Roedden nhw wedi bod yn aros yng ngwesty Norbreck Castle.
Roedd Paul Edensor wedi bod yn yrrwr ers deufis ac eisoes wedi ei ddisgyblu am yrru’r rhy gyflym. Anwybyddodd y teithwyr oedd yn disgwyl ar yr orsaf a pharhau i yrru.
“Yn ôl rheolaeth Trafnidiaeth Blackpool mae’n rhaid i dram aros i gasglu unrhyw deithwyr sy’n disgwyl ar orsaf,” meddai Kirsten McAteer.
“Wrth feddwl y byddai’r diffynnydd yn aros wrth yr orsaf, croesodd Maureen Foxwell gyda’i gŵr. Ond methodd y diffynnydd aros a tharodd Maureen Foxwell i’r llawr.”
(Llun: Un o dramiau Blackpool)