Mae Coronation Street yn ‘dathlu’ pen-blwydd y rhaglen yn 50 oed yr wythnos hon gyda damwain tram sy’n dinistrio rhan helaeth o’r stryd eiconig ac yn lladd rhai o’r prif gymeriadau.
Denodd y ddamwain ar nos Lun gynulleidfa fwya’r sioe ers pum mlynedd. Felly sut all ein rhaglen sebon ni, Pobol y Cwm, ddenu’r gwylwyr drwy ddinistrio’i phentref eiconig ei hun?
Rhif 10: Rhywbeth ‘fishy’ am y siop jips
Mae straen ymadawiad Garry Monk yn mynd yn ormod i Britt ac mae glanweithdra siop jips y pentref yn gwaethygu. Mae sawl cymeriad yn dal gwenwyn bwyd a Britt yn wynebu achos llys am achosi’r cyfan.
Rhif 9: Deri danllyd
Heb allu ddod o hyd i unrhywun i garco garej Garry Monk yn ei absenoldeb mae ei frawd, Brandon, yn anobeithio ac yn penderfynu llosgi’r adeilad i’r llawr er mwyn hawlio’r arian yswiriant. Yn anffodus mae pethau’n mynd o chwith ac mae’r tân yn lledu i weddill adeiladau’r cwm ac yn llosgi’r stryd eiconig i’r llawr.
Rhif 8: Ffwdan Ffion
Mae Ffion yn anobeithio ar ôl perthynas trychinebus arall ac yn penderfynu dod â’r cyfan i ben dros y Nadolig. Mae’n ceisio neidio allan o flaen lori raean sy’n swerfio i’w hosgoi ac yn palu i mewn i’r Deri a sawl tŷ a siop arall cyn dod i stop.
Rhif 7: Cwmderi mewn twll
Mae pwll glo Cwmderi wedi cau ers blynyddoedd. Ond does neb wedi sylweddoli bod y rhwydwaith o dwneli o dan y pentref yn dechrau gwegian dan bwysau’r holl ddatblygiadau diweddar, gan gynnwys tŷ newydd Eifion a Cadno. Un dydd mae hollt yn ymddangos i lawr prif stryd Cwmderi, a chyn i unrhyw un ddatrys y dirgelwch mae’r pentref cyfan wedi disgyn i mewn.
Rhif 6: Gwenwyn yn yr Ysgol
Unwaith eto mae glanhawr yr ysgol, Mark Jones, a Debbie Collins yn camddefnyddio adnoddau yr ysgol er mwyn creu cynnyrch ar gyfer eu busnes crysau T. Ond yn eu diogrwydd maen nhw’n gadael i’r printiwr paent weithio drwy’r nos. Mae’n gorboethi ac yn rhyddhau nwyon gwenwynig i’r aer sy’n mygu’r athrawon Ffion Llywelyn, Gaynor Evans a Macs White.
Rhif 5: Pandemig Penrhewl
Mae trigolion fferm Penrhewl yn credu eu bod nhw wedi cael gwared ar bob ôl o TB o’r fferm drwy ddifa eu stoc wartheg i gyd. Ond heb yn wybod iddyn nhw mae’r bacteria wedi mwtanu yn fath sy’n heintio pobol hefyd ac yn lledu drwy Gwmderi cyfan. Mae’r llywodraeth yn rhoi’r pentref dan gwarantîn tra bod cyrff yn llenwi’r strydoedd…
Rhif 4: Pobol y Cwm Tryweryn
Yn ddiarwybod i weddill trigolion y cwm mae’r cynghorydd a’r dyn busnes, Ieuan Griffiths, yn dod i gytundeb gyda chwmni egni adnewyddadwy o Sweden i adeiladu argae trydan dŵr ar waelod y cwm. Mae rhai o drigolion cydwybodol Cwmderi, gan gynnwys Sion White, yn gwrthod gadael a phan ddaw’r dŵr maen nhw i gyd yn boddi.
Rhif 3: Garry Monk yn herio’r Heddlu
Mae Garry Monk yn anobeithio o eisiau gweld ei fab Gwern, ond pan mae’n dychwelyd i Gwmderi mae’r heddlu eisoes yn disgwyl amdano. Yn y frwydr sy’n dilyn mae sawl cymeriad poblogaidd yn cael ei ddal yn y saethu cyn i Garry ei hun farw mewn pwll o waed ar stepen ddrws cartref Gwyneth. Mae Gwern yn gweld y cyfan ac yn addo dial yn y dyfodol.
Rhif 2: Scaffalde Dai yn syrthio
Mae Dai Scaffalde yn bles iawn ar ôl i gwmni ABD ennill cytundeb i adnewyddu hen gapel Cwmderi. Ond mae’n penderfynu torri nol ar gostau drwy ddefnyddio hen scaffalde o sgip ar ochr y lôn. Wrth i drigolion y pentref cyfan lenwi’r capel ar gyfer cymanfa ganu adeg y Nadolig mae’r scaffalde yn gwegian a nenfwd yr adeilad yn syrthio i’r llawr gan wasgu sawl un yn fflat.
Rhif 1: Jeremy Hunt yn tynnu’r plwg
Mae’r Gweinidog Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn cael digon ar frwydro mewnol S4C ac yn tynnu’r plwg ar y sianel, gan olygu bod Pobol y Cwm yn diflannu am byth!