Fe fydd degau o filoedd o swyddi yn y sector gyhoeddus yn cael eu colli yng Nghymru o ganlyniad i doriadau Llywodraeth San Steffan, meddai’r Blaid Lafur heddiw.

Menywod Cymru fydd yn cael eu taro caletaf o ganlyniad i’r toriadau, honnodd y blaid.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru’r wrthblaid, Peter Hain, ei bod hi’n “syfrdanol” nad oedd y glymblaid yn San Steffan yn gwybod faint o ferched fyddai’n colli eu swyddi.

Mae merched yn cynrychioli 75% o weithlu sector gyhoeddus Cymru, meddai.

“Chi yw’r fenyw gyntaf sydd wedi bod yn Ysgrifennydd Cymru,” meddai wrth Cheryl Gillan yn Nhŷ’r Cyffredin. “Ydych chi’n falch o agwedd eich Llywodraeth tuag at fenywod Cymru?”

Ymatebodd Cheryl Gillan gan ddweud bod rhagolwg economaidd Cymru wedi gwella, ac y byddai llai o swyddi’n cael eu colli nag oedden nhw wedi ei ofni.

Fe aeth Peter Hain yn ei flaen i ddweud bod cau’r Swyddfa Basbortau yng Nghasnewydd yn “warthus”.

“Mae amcangyfrif y Swyddfa Ddarbodus yn dangos y bydd gweithredoedd eich Llywodraeth yn golygu bod degau o filoedd o swyddi yn y sector gyhoeddus yn cael eu colli yng Nghymru,” meddai.

“Faint o’r rheini fydd yn fenywod?”

Ymatebodd Cheryl Gillan eu bod nhw’n “difaru bod rhaid colli unrhyw swyddi”.

“Ond rydym ni’n falch o weld bod y Swyddfa Ddarbodus wedi rhagweld y byddai 490,000 o swyddi yn y sector gyhoeddus yn cael eu colli i ddechrau, ond bellach yn dweud mai 330,000 o swyddi fydd yn cael eu colli.

“Rydw i’n siŵr eich bod chi’n croesawu’r gostyngiad hwnnw.”

Ychwanegodd bod gan y Llywodraeth gynlluniau i helpu cwmnïau bach i gyflwyno oriau gweithio hyblyg ac y byddai hynny’n ei gwneud hi’n haws i fenywod weithio’n rhan amser.