Fe fuodd dynes 46 farw ar ôl cael ei tharo gan drên yn Sir y Fflint dydd Llun.
Fe fydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal yfory. Mae’n debyg ei bod hi wedi marw yn y fan a’r lle.
Cafodd ei tharo gan y trên ger Pentrobin, Penarlâg, am 18.15pm dydd Llun.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain nad oedd y farwolaeth yn un amheus.