Fe fydd cefnwr y Gweilch, Lee Byrne yn colli’r ddwy gêm Cwpan Heineken yn erbyn Munster ar ôl torri ei fys bawd.

Dioddefodd Byrne yr anaf wrth chwarae i Gymru yn erbyn Seland Newydd ddiwedd y mis diwethaf ac fe fydd allan am tua phum wythnos.

“Cadarnhawyd ddoe ei fod o wedi torri gwaelod ei fys bawd ac o ganlyniad i hynny fe fydd allan am gyfnod o bum wythnos,” meddai’r ffisiotherapydd, Chris Towers.

Doedd y rhanbarth heb sylweddoli pa mor ddifrifol oedd yr anaf i ddechrau ac fe gafodd Byrne ei enwi yng ngharfan y Gweilch i wynebu Caeredin y penwythnos diwethaf.

“Yn anffodus doedd y Gweilch ddim mewn safle i gadarnhau difrifoldeb yr anaf cyn hynny, er gwaetha’r ffaith eu bod nhw wedi rhoi gwybod i Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â’r anaf, ar ôl i Lee fethu â mynd i ymgynghoriad gydag arbenigwr a drefnwyd gan yr Undeb,” meddai’r Gweilch mewn datganiad.

“Yn dilyn hynny, methodd apwyntiad sgrinio ar ôl dychwelyd i’r Gweilch a oedd yn golygu bod y tîm meddygol wedi methu â chadarnhau’r anaf tan yn hwyr yr wythnos diwethaf. Dyna pam y cafodd ei enwi yn y garfan i wynebu Caeredin.”

Fe fydd absenoldeb y cefnwr yn ergyd fawr i’r Gweilch wrth iddynt baratoi ar gyfer cyfnod pwysig yn y tymor.

Maen nhw’n wynebu Munster dwywaith cyn gemau darbi yn erbyn y Scarlets a’r Gleision dros gyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd.