Mae enillydd gwobr celf Turner eleni wedi dweud ei bod hi’n cefnogi myfyrwyr sy’n protestio yn erbyn y toriadau, wrth dderbyn ei gwobr echdoe.
Fe wnaeth Susan Philipsz ennill y wobr am ei recordiad o gân werin draddodiadol.
Ond roedd sŵn myfyrwyr yn protestio yn erbyn y toriadau i’w glywed yn y cefndir.
Fe gafodd yr artist o Glasgow wobr o £25,000 ddoe yn y Tate Britain yn Llundain – ac mae wedi addo gwario ychydig o’r arian ar fynd a’i rhieni dramor ar wyliau.
Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Tate, Syr Nicholas Serota, at bresenoldeb y myfyrwyr gan ddweud fod “pawb” hefyd yn pryderu am doriadau i’r gyllideb gelf.
Wrth dderbyn ei gwobr, fe roddodd Susan Philipsz gefnogaeth uniongyrchol i fyfyrwyr, gan ychwanegu ei bod hi hefyd “yn cefnogi artistiaid sydd yn erbyn y toriadau”.
Dywedodd yn ddiweddarach ei bod hi wedi protestio yn ystod ei hamser yn fyfyriwr.
“ Dw i’n meddwl bod ganddyn nhw bob hawl i brotestio. Dydw i ddim yn meddwl y dylen nhw dorri’r grantiau,” meddai.