Mae’r Ysgrifennydd Treftadaeth, Philip Hammond, wedi awgrymu y dylai pobol glirio hewlydd a phalmentydd sydd heb eu trin gan y cyngor.
Dywedodd Philip Hammond bod yn rhaid i gynghorau wneud penderfyniadau anodd ynglŷn â pha ffyrdd fydd yn cael eu graeanu ond fe fyddan nhw’n darparu graean i bobol glirio eu strydoedd eu hunain.
“Mewn sawl achos hoffai pobol gael eu cyflenwad eu hunain o halen a graean er mwyn eu defnyddio ar hewlydd sydd ddim ar lwybr graeanu’r cyngor,” meddai wrth raglen BBC Breakfast.
“Fe fyddai pobol yn gallu gwneud y palmentydd yn haws, a’i gwneud hi’n haws iddyn nhw gael eu ceir mas i’r hewl.
“Mae pobol wedi gorfod clirio eu dreifiau eu hunain erioed… ac fe fyddwn i’n annog pobol sy’n gallu gwneud hynny i helpu cymdogion sydd ddim yn gallu.”
Mae disgwyl i Gymru ddadmer rywfaint dydd Iau ond fe fydd y tywydd rhewllyd yn ei ôl dros y penwythnos.