Mae ymgyrchwyr Gwir Gymru wedi dweud wrth Golwg360 eu bod nhw’n “hynod bryderus” ynglŷn â’r modd y mae’r refferendwm ar fwy o ddatganoli yn cael ei chyflwyno i’r genedl.

Wrth i’r ymgyrch ‘Ie’ ddechrau ar y gwaith o argyhoeddi’r Cymry i gefnogi’r newid, mae Gwir Gymru ar fin gwneud cais i ddod yn grŵp ymgyrch swyddogol y bleidlais ‘Na’.

Dywedodd llefarydd y mudiad, Rachel Banner, ei bod hi’n pryderu bod y newid yn cael ei bortreadu fel un fydd yn “tacluso’r sefyllfa ddeddfwriaethol bresennol”.

Heb yr un llwyfan a’r ymgyrch ‘Ie’, eu nod nhw oedd sicrhau bod y dadleuon yn erbyn yn cael eu gwyntyllu’n gyhoeddus, meddai.

“Mae Pwyllgor Dethol Materion Cymreig wedi’i gwneud yn glir y byddai symud i Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn newid cyfansoddiadol arwyddocaol iawn,” meddai.

“Rydym ni eisiau cynnal trafodaeth lawn rhwng y ddwy ochr ynglŷn â pha mor bell y bydd y cam hwn yn mynd â ni tuag at ffederaliaeth ac, yn dilyn hynny, gwahanu’n gyfan gwbl o’r Deyrnas Unedig.

“Mae’n anodd iawn i ni gystadlu â gwleidyddion y Bae. Does gyda ni ddim yr un arian i hysbysebu nac yr un adnoddau cyhoeddus.

“Mae Bws y Cynulliad eisoes yn teithio o amgylch Cymru yn barod gyda’r bwriad – yn ein barn ni – o annog pobl i bleidleisio am fwy o bwerau i’r gwleidyddion ym Mae Caerdydd.”

‘Agored’

“Rydym ni’n gwybod bod yna lot o drafod eisoes y tu ôl i ddrysau caeedig am bwerau treth, benthyca a datganoli troseddu a phlismona,” meddai.

“Mae angen i’r trafodaethau ddod allan i’r awyr agored. Mae’n hanfodol bwysig nad yw’r dosbarth gwleidyddol yn arwain pobol Cymru i lawr y ffordd tuag at fwy o ddatganoli gyda mygydau dros eu llygaid.”

Ar hyn o bryd, mae gan y grŵp 241 o lofnodion ar eu deiseb ar-lein yn galw am bleidlais ‘Na’.

Mae 700 arall wedi arwyddo deiseb bapur y grŵp ac maen nhw’n “hyderus” y bydd eu cefnogaeth yn tyfu wrth i’r ymgyrch fynd yn ei flaen.

Dyddiad

Dywedodd Rachel Banner eu bod nhw hefyd yn ymgyrchu i newid dyddiad y refferendwm ar fwy o ddatganoli.

“Rydym ni’n bryderus iawn ynglŷn â faint o bobl sy’n debygol o bleidleisio yn y refferendwm, o ganlyniad i’r penderfyniad i’w chynnal ar wahân i etholiadau eraill,” meddai.

Mae’n dadlau y byddai’n “costio llai ac yn arwain at gynnydd yn faint fydd yn pleidleisio” petai’r refferendwm yn cael ei chynnal ddiwrnod Etholiadau’r Cynulliad.

Ar hyn o bryd, mae’r grŵp yn mynd â thaflenni o amgylch bob rhan o Gymru, yn mynd o ddrws i ddrws ac yn cynnig taflenni ymgyrchu yng nghanol trefi.

“Rydym ni’n teimlo bod yr ymgyrch yn mynd yn dda ac ein bod ni’n cael lot o gefnogaeth ym mhob rhan o Gymru.”