Mae gan rieni’r hawl i dynnu lluniau o’u plant wrth iddyn nhw berfformio drama’r Geni mewn ysgolion, yn ôl y Comisiynydd Gwybodaeth.

Dywedodd Christopher Graham bod lluniau ar gyfer yr albwm teuluol yn unig wedi’u heithrio o reolau ac na ddylai rhieni ganiatáu i ysgolion neu gynghorau ddweud yn wahanol.

“Dylai rhieni deimlo’n rhydd i dynnu lluniau fel y maen nhw’n ei fynnu’r Nadolig yma,” meddai Christopher Graham.

“Mae gweld eich plentyn yn perfformio mewn drama neu gyngerdd yn yr ysgol yn foment balch iawn ac mae’n ddealladwy y bydden nhw eisiau tynnu llun o hynny.

“Mae’n siomedig clywed bod rhai ysgolion a chynghorau yn credu bod y Ddeddf Gwarchod Gwybodaeth yn rhwystro rhieni rhag tynnu lluniau.

“Mae angen defnyddio synnwyr cyffredin – mae’n amlwg nad ydi lluniau sy’n cael eu tynnu ar gyfer albwm teuluol yn dod dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.”