Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i ffrwydrad nwy mewn garej yn Twynrodyn, Merthyr Tudful, neithiwr.
Dywedodd yr heddlu a’r gwasanaethau brys bod silindr nwy asetylen wedi ffrwydro yn ystod tân yn y garej ar Woodland Terrace tua 9.45pm dydd Mawrth.
Does yna ddim adroddiadau ynglŷn ag unrhyw anafiadau. Mae sawl tŷ yn yr ardal wedi eu gwagio dros dro tan ei fod o’n saff i ddychwelyd.
Dywedodd yr heddlu bod trigolion wedi cael y cynnig i aros yng Nghanolfan Hamdden Rhydycar ym Merthyr Tudful dros dro.