Mae dyn o Brydain sydd wedi ei gyhuddo o dalu dyn arall i ladd ei wraig ar eu mis mêl yn Ne Affrica wedi ei arestio gan Heddlu’r Met ar amheuaeth o gynllwynio i’w lladd hi.
Cafodd Anni Dewani, o Sweden yn wreiddiol, 28, ei saethu’n farw yn y wlad ar 13 Tachwedd.
Arestiwyd Shrien Dewani nos Fawrth gan swyddogion Scotland Yard ar ôl cais gan awdurdodau De Affrica.
Mae gyrrwr tacsi, Zola Tongo, wedi cyfaddef iddo ladd Anni Dewani ar ôl cael cynnig 15,000 rand (£1,300) gan Shrien Dewani.
Cafodd Zola Tongo ei ddedfrydu i 18 mlynedd yn y carchar.
Mae teulu’r dyn busnes 30 oed o Brydain yn honni fod y cyhuddiad yn “gwbl chwerthinllyd”.
Dywedodd Heddlu’r Met bod Shrien Dewani o Westbury-on-Trym ym Mryste wedi mynd i orsaf yr heddlu yn y ddinas o’i wirfodd.
“Mae Shrien yn gwbl ddieuog o’r drosedd erchyll yma,” meddai datganiad gan y teulu.
“Mae’r cyhuddiadau yma’n gwbl chwerthinllyd ac yn halen ar y briw i ddyn ifanc sy’n galaru’r ddynes oedd o’n ei garu.”
Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Dinas San Steffan heddiw.