Mae pobol yn marw’n ddiangen o lid yr ymennydd oherwydd eu bod yn credu mai brech yw’r prif neu’r unig symptom, meddai arolwg barn heddiw.

Roedd mwy na 71% o blith 1,300 o oedolion yn meddwl mai brech oedd yr arwydd mwyaf amlwg o’r clefyd. Doedd 11% o bobol ar y rhestr ddim yn gallu enwi yr un o symptomau llid yr ymennydd.

Fe ddywedodd Ymddiriedolaeth Llid yr Ymennydd, a gynhaliodd yr arolwg, bod brech nad yw’n diflannu dan bwysau yn arwydd allweddol o’r clefyd – ond nid bob tro.

Pan mae’n ymddangos – gall fod yn un o’r symptomau diwethaf i gyrraedd, meddai’r Ymddiriedolaeth gan ychwanegu yn aml ei bod yn “rhy hwyr.”

Symptomau

Yn ôl yr elusen, gall llid yr ymennydd ddechrau gyda symptomau tebyg i ffliw, yn cynnwys twymyn, cur pen, chwydu a phoen yn y cyhyrau.

Mae arwyddion eraill yn cynnwys dwylo a thraed oer, dryswch, croen gwelw blotiog, gwddf anystwyth, diffyg hoffter o oleuadau llachar a ffitiau.

Mae babanod yn aml yn llipa a diymateb, ddim yn hoffi cael eu cyffwrdd, yn dioddef o anadlu cyflym neu’n gwneud sŵn crio uchel. Hefyd, efallai y bydd y man meddal ar eu pennau yn chwyddo.

Mae Sue Davie, prif weithredwr yr elusen wedi dweud heddiw ei bod yn bwysig nad yw pobol yn “aros am frech” cyn gweld meddyg neu geisio cymorth.

“Trwy feddwl mai brech yn unig yw llid yr ymennydd, mae pobol yn marw. Mae’n hen bryd i’r cyhoedd ddeall y symptomau gan frwydro yn erbyn y clefyd angheuol yma.”