Ar ôl i Iwerddon gyflwyno’r gyllideb fwyaf llym o fewn cof – mae pennaeth Barnados yn y wlad wedi rhybuddio fod y Llywodraeth yn gorfodi rhieni i ddewis rhwng gwres, bwyd neu ymweld â meddyg.
Mae’r elusen wedi rhybuddio y bydd toriadau mewn gwario a budd-daliadau yn golygu fod rhai pobol yn llwgu, eraill yn oer, heb ddigon o arian i brynu dillad addas a rhai hyd yn oed yn ddigartref.
“Mae’n golygu mewn tywydd fel hyn bod plant yn byw mewn cartrefi heb wres,” meddai. “Mae’n golygu y bydd rhaid i rieni wneud penderfyniadau a dewisiadau na ddylai’r un rhiant orfod eu gwneud.”
Mae’r elusen yn arbennig o feirniadol o doriadau mewn budd-dal plant a newidiadau i’r dreth incwm i gynnwys rhagor o bobol ar y gwaelod.
Fe fydd hynny medden nhw yn golygu fod teuluoedd ar eu colled o filoedd o ewros ac mae disgwyl protestiadau yn erbyn y gyllideb sy’n cael ei gorfodi’n rhannol gan gyrff rhyngwladol.
Fe fydd cyflog y Taoiseach Brian Cowen yn parhau ymhlith yr uchaf yn y byd – hyd yn oed ar ôl toriad o £11,800. Mae llawer wedi beirniadu’r Llywodraeth am wrthod codi trethi uwch ar y bobol gyfoethocaf.