Mae’r llefarydd Llafur ar Gymru ymhlith carfan o wleidyddion Llafur amlwg wedi ymuno yn yr ymgyrch o blaid newid y system bleidleisio.

Mae’n golygu bod ffigurau mor amrywiol â Peter Mandelson a Tony Benn ar yr un ochr, yn ymgyrchu tros gyflwyno system bleidleisio 1-2-3 mewn etholiadau cyffredinol.

Mae Peter Hain, y llefarydd ar Gymru, yn un o wyth o aelodau Cabinet yr wrthblaid sydd wedi arwyddo llythyr i bapur y Guardian yn cefnogi’r ymgyrch dan arweiniad cyn weinidog arall, Ben Bradshaw.

Er hynny, mae ffigurau Llafur amlwg eraill, gan gynnwys y cyn Ddirprwy Brif Weinidog John Prescott, wedi dechrau ymgyrchu yn erbyn.

Roedd cefnogaeth i system AV ym maniffesto’r blaid eleni – dyna’r system lle mae etholwyr yn gosod ymgeiswyr mewn trefn a lle bydd yr ail a’r trydydd dewis yn cael eu cyfri wrth i ymgeiswyr golli.

Barn yr ymgyrchwyr

Er nad yw AV yn cael ei hystyried yn system o bleidleisio cyfrannol gwirioneddol, mae cefnogwyr yr ymgyrch yn dweud y bydd yn decach na’r system bresennol.

“Llafur yw blaid cydraddoldeb,” medden nhw yn y llythyr. “Y flwyddyn nesa’ mae gyda ni’r cyfle i bleidleisio tros system bleidleisio decach.

“Mae’n un lle mae pleidlais pawb yn cyfri a phob AS yn gorfod cael cefnogaeth mwyafrif o’r pleidleiswyr.”

Fe fydd y bleidlais yn digwydd fis Mai y flwyddyn nesa’.

Llun: Peter Hain