Mae capten Lloegr, Andrew Strauss wedi canmol ei dîm ar ôl iddynt guro Awstralia yn ail brawf cyfres y Lludw yn Adelaide.

Fe orffennodd Awstralia eu batiad cyntaf am 245 cyn i Loegr sgorio 620-5. Fe aeth Lloegr ‘mlaen i gipio’r chwe wiced oedd angen arnynt o ail fatiad Awstralia i ennill o fatiad a 71 rhediad.

Dyma oedd y canfed tro i Loegr guro Awstralia mewn gêm brawf ac mae’n golygu bod dim ond angen iddynt ennill un prawf arall i ennill y gyfres.

‘Haeddu’r fuddugoliaeth’

“Roedden ni’n glinigol ym mhob agwedd o’r gêm. Roedd yn ymdrech fawr i’w bowlio nhw allan am 245 ar y diwrnod cyntaf, ac ni chafwyd y cyfle i ddod ‘nôl mewn i’r gêm,” meddai Andrew Strauss.

“R’y ni’n hapus iawn gyda’n perfformiad ac roedden ni’n haeddu’r fuddugoliaeth. Ond mae’r prawf nesaf yn Perth yn bwysig iawn nawr”

Fe gafodd Kevin Pietersen ei enwi’n seren y gêm ar ôl sgorio 227 o rediadau ac yn ôl capten Lloegr, roedd ef wedi dangos potensial i berfformio fel yna ers tipyn.

“Roedd Kevin wedi bygwth chwarae fel yna ers tro. Wrth i ni chwarae’r gemau paratoi roedden ni’n gallu gweld fod yr hyder wedi dychwelyd,” nododd Strauss.

Ffordd bell i fynd

Er gwaethaf y canlyniad, mae capten Lloegr yn cydnabod bod ffordd bell i fynd yn y gyfres eto.

“Fe fydd Awstralia’n taro ‘nôl yn gryf ac os oes ‘na unrhyw ffordd ‘nôl mewn i’r gyfres fe fyddan nhw’n ei gymryd”

“Rwy’n hapus iawn gan fod y perfformiad yn weddol gyflawn. Fe fyddwn ni’n gallu defnyddio hynny fel templed i symud ‘mlaen, a ni fyddwn ni’n gallu gostwng safonau o hynny”

“Ond fe fydd angen i ni baratoi ar gyfer brwydr yn y tri phrawf olaf.”