Mae dwy elusen flaenllaw yng Nghymru wedi gorfod addasu sut y maen nhw’n gwerthu nwyddau er mwyn goroesi’r argyfwng economaidd.

Dywedodd Tim Finch, pennaeth gwerthiant Tenovous, wrth Golwg360 eu bod nhw wedi gorfod bod yn “glyfrach” er mwyn llwyddo yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

Roedd gostyngiad sylweddol yn faint o nwyddau oedd pobol yn eu rhoi i siopau elusen Tenevous, meddai.

“Mae pobol yn gwneud i bethau bara’n hirach, ac yn gwerthu ar-lein, neu mewn ‘car boot sales’ lleol er mwyn codi rhywfaint o arian ychwanegol,” meddai.

“Rydym ni wedi gorfod ail feddwl am sut allen ni godi arian. Un o’r ffyrdd ydan ni wedi gwneud hynny ydi defnyddio ‘Gift Aid’.

“Mae gan bob eitem ‘Gift Aid’ a werthir yn y siop gôd sy’n golygu ein bod ni’n gallu hawlio 28c o bob punt gan y dyn treth bob tro mae cwsmer yn prynu eitem.

“Rydym ni wedi codi £130,000 drwy Gift Aid eleni, ac mae’r arian yn mynd yn uniongyrchol at ddarparu gwasanaethau i gleifion sy’n dioddef o ganser.”

Age Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran ‘Age Cymru’ wrth Golwg360 mai ansawdd bywyd yr henoed oedd pryder pennaf yr elusen yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

“Mae angen i gymunedau ddarparu adnoddau sy’n caniatáu i bobol allu byw yn yr un ardal drwy gydol eu hoes,” meddai Iwan Roberts. “Yn sgil y toriadau, mae yna bryder a fydd hynny’n bosib.”

Mae un o bob dau o’r henoed yng Nghymru yn dweud “nad yw’r ddarpariaeth toiledau cyhoeddus yn ddigonol,” meddai’r elusen.

Dywedodd bod yr elusen bellach yn ystyried ffyrdd amgen o ddarparu rhwydwaith toiledau cymunedol, e.e. agor toiledau mewn siopau a thafarndai er defnydd y cyhoedd.

“Mae gallu mynd allan i’r Gymdeithas yn cyfoethogi bywydau pobl hŷn,” meddai. “Bydd pobol yn fwy unig os nad yw’r adnoddau yma ar gael.”

‘Di-waith’

Dywedodd John Gough, rheolwr elusen Siop Lyfrau Cristnogol Bangor, Mudiad Efengylaidd Cymru, ei fod o eisoes wedi colli’r frwydr ariannol.

Roedd “yr elusen gyfan wedi’i tharo gan gynnydd mewn siopa ar y we,” meddai.

Fis Chwefror bydd John Gough, sydd wedi rheoli’r siop ers 21 mlynedd, yn “ddi-waith,” meddai wrth Golwg360.

“Dyw’r siop ddim yn gwneud digon o arian i’m cadw i yma.”

Mae’n beio rywfaint o’r problemau ar wefannau “fel Amazon” ond yn awgrymu hefyd bod llai yn darllen erbyn hyn.

“Rydym ni’n byw mewn oes weledol, oes y DVD,” meddai.