Cafodd bocs llawn nadroedd ac anifeiliaid amrywiol eraill eu cludo ar daith wyth awr o Indonesia i’r Emiradau Arabaidd Unedig, yn ôl heddlu yn Abu Dhabi.

Darganfuwyd y bocs oedd yn cynnwys pedair neidr, dau barot a gwiwer wrth drosglwyddo nwyddau o un awyren i’r llall yn Abu Dhabi yr wythnos ddiwethaf.

Gwrthododd yr heddlu ddatgelu enw’r dyn sydd dan amheuaeth o smyglo’r anifeiliaid, na chwaith ble’r oedd pen ei daith.

Dyw hi ddim yn glir eto chwaith sut lwyddodd yr anifeiliaid i osgoi’r awdurdodau yn Indonesia.
Yn ôl un papur newydd o Dubai mae arbenigwyr sydd wedi gweld lluniau o’r creaduriaid yn credu mai rhywogaethau amrywiol o beithoniaid yw’r nadroedd.