Bydd rhai o sêr ifanc Cymreig y Crusaders yn allweddol i obeithion y tîm yn ystod tymor 2011.

Dyna farn y cefnwr Clinton Schifcofske, wrth i’r clwb o Wrecsam baratoi ar gyfer y tymor newydd.

Fe wnaeth chwaraewyr megis Elliot Kear, Lloyd White a Ben Flower argraff llynedd ond mae Withers a Schifcofske yn credu mai dyma fydd eu blwyddyn nhw.

“Mae yna dalent ifanc gwych yn y garfan. Mae ganddyn nhw lot fawr o botensial ac fe fydd rhaid iddyn nhw brofi eu hunain y tymor nesaf,” meddai Clinton Schifcofske.

“Maen nhw’n barod i weithio’n galed ac mae ganddyn nhw ddyfodol disglair. Maen nhw wedi profi eu bod nhw’n gallu chwarae ar y safon uchaf.

“Rwy’n credu y bydd Ben Flower yn cael tymor mawr. Mae’n fawr ac yn gryf ac mae’n mynd i gyflawni lot fawr yn y Super League.

“Mewn dwy i dair blynedd fe fydd Ben Flower yn ddigon da i chwarae yn yr NRL.

“Mae’n bwysig eu bod nhw’n gwneud y gorau o bob cyfle y maen nhw’n mynd ei gael. Maen nhw wedi bod yn wych i Gymru yng Nghwpan Ewrop ac mae Iestyn yn gwybod sut i gael y gorau allan ohonyn nhw.”