Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews wedi dweud nad oes yna “unrhyw esgusodion” ar ôl i dabl rhyngwladol sy’n mesur gallu disgyblion ddangos bod Cymru wedi disgyn ar ei hôl hi.
Mae sgiliau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth disgyblion Cymru yn is na gweddill Prydain, ac yn is na’r cyfartaledd rhyngwladol, yn ôl tabl a ryddhawyd heddiw.
Dywedodd Leighton Andrews bod yr ystadegau yn “arswydus i bawb yn y sector addysg”.
“Mae’r canlyniadau yn siomedig,” meddai Leighton Andrews. “Maen nhw’n dangos cwymp annerbyniol yn safon addysg Cymru.
“Does yna ddim esgusodion. Mae gwledydd sy’n gwario llai ar addysg na Chymru wedi gwneud yn well.”
Yn 2006, roedd Cymru tua chanol y rhestr ryngwladol ond hi oedd yr isa’ o bedair gwlad y Deyrnas Unedig eleni.
Mae’r tabl yn cael ei greu trwy Raglen Asesu Ryngwladol i Fyfyrwyr sy’n cael ei threfnu gan wledydd diwydiannol yr OECD, gydag arholiadau i 10,000 o ddisgyblion 15 oed o bob gwlad.
Mae’r arholiadau’n asesu gallu disgyblion i ddefnyddio’u gwybodaeth mewn meysydd fel mathemateg, gwyddoniaeth a darllen.
Yn ôl ymchwil gan y Corff Datblygu a Chydweithio Economaidd mae addysg ar draws Prydain wedi “aros yn yr unfan” tra bod gwledydd gan gynnwys Gwlad Pwyl a Norwy wedi achub y blaen.
Dywedodd Leighton Andrews bod angen i “ysgolion, awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru dderbyn y cyfrifoldeb ar gyfer y canlyniadau yma”.
“Mae’r canlyniadau yn dangos nad ydi ysgolion yng Nghymru yn darparu gwasanaeth digon da ar gyfer ein myfyrwyr.
“Mae hwn yn fethiant systematig – rhaid i ni i gyd gymryd cyfrifoldeb amdano a rhannu’r baich o newid pethau am y gorau.
“Mae gan bobol ifanc yr un potensial a phlant ifanc ar draws y byd. Rhaid i ni osod disgwyliadau uwch a gwella pob rhan o’r system.”
Syrthio
Mae Prydain wedi syrthio o’r 17eg i’r 25ain safle ar y tabl sy’n mesur sgiliau darllen plant 15 oed. Mewn mathemateg, mae wedi syrthio o’r 24ain i’r 28ain safle.
Sgôr Prydain gyfan oedd 494 mewn darllen, 492 mewn mathemateg, a 514 mewn gwyddoniaeth.
Yng Nghymru’r sgôr oedd 476 mewn darllen, 472 mewn mathemateg, a 496 mewn gwyddoniaeth.
Y sgôr cyfartalog ar draws y byd oedd 493 mewn darllen, 496 mewn mathemateg, a 501 mewn gwyddoniaeth.
Cymerodd tua 15 miliwn o ddisgyblion 15 oed o dros 70 gwlad ran yn y gwaith ymchwil yn 2009. Disgyblion Shanghai-China ddaeth uchaf ym mhob un o’r profion.
Mae canlyniadau Prydain yn debyg i’r canlyniadau yn 2006, ond ers hynny mae gwledydd eraill wedi gwella ac mae Prydain wedi syrthio i lawr y rhestr.
Ymateb
“Mae’r ystadegau yn dangos bod Prydain wedi aros yn yr unfan,” meddai Andreas Schleicher, arweinydd yr ymchwil.
“Yn y cyfamser mae gwledydd eraill wedi gwella’n sylweddol. Dyna sut ydw i’n dadansoddi’r ystadegau.”
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod y ffigyrau yn “hynod o siomedig ac yn dangos pa mor bell mae Cymru wedi disgyn ar ei hol hi dan arweinyddiaeth Llafur a Plaid Cymru”.
“Er gwaethaf ymroddiad a proffesiynoldeb ein hathrawon, mae’n siomedig mai Cymru yw’r wlad sy’n perfformio gwaethaf ym Mhrydain,” meddai gweinidog addysg yr wrthblaid, Paul Davies.
“Mae’r ffigyrau damniol yma yn rhybudd i weinidogion Llafur a Plaid Cymru.”