Ar yr unfed awr ar ddeg mae Alun Ffred Jones wedi cyflwyno gwelliant pellach i’r mesur iaith sydd fel a ganlyn:
“Adran 1, tudalen 12, ar ddechrau llinell 15, ychwanegwch -‘Heb ragfarnu egwyddor gyffredinol is-adran (1)’ “
Beth mae hyn yn ei olygu? Fe fydd y Llywodraeth yn mynnu nad oes ganddo ddim oll i wneud â gwelliant Bethan Jenkins i’r mesur ond mae ei gyflwyno ar y funud olaf fel hyn yn awgrymu’n gryf mai dyna’n union maen nhw’n ei wneud. Bwriad y gwelliant yw i dawelu pryderon y rhai hynny sydd wedi dweud mor gryf mor bwysig yw rôl seicolegol cael statws swyddogol i’r iaith Gymraeg, fel bod pobol yn teimlo bod yr hawl ganddyn nhw i ddefnyddio’u Cymraeg pa le bynnag fyd fynnan nhw. Os oedd aelodau cyffredin Plaid Cymru wedi dweud yn gryf wrth y bobol ar y brig eu bod nhw’n ystyried o ddifrif i bleidleisio gyda Bethan, gallan nhw nawr ail-ystyried. Bydd rhaid i fi siarad â Bethan i weld beth mae hi’n bwriadu ei wneud nawr, ac â chynrychiolwyr o’r 85 ysgrifennodd at Ffred yn gofyn iddo ail-ystyried geiriad y datganiad o statws a’i gryfhau. Am y tro, gadawa i chi gyda hwn, eglurhad y Llywodraeth o’i cymhellion:
“This amendment addresses the concerns expressed by those who are worried that S 1(2) of the measure undermines the general principle of official status. This new amendment provides people with reassurance that the general principle that the Welsh language has official status in Wales is not restricted. But section 1(2) makes it clear how legal effect is given to that official status.”
Mae’n debyg bod Alun Ffred am i ni gyd fel Cymry allu dathlu’r mesur iaith a gweld y pethau da sydd ynddo fe yn hytrach na mynd “mewn i drafodaethau haniaethol am statws swyddogol.”
DIWEDDARIAD:
DATGANIAD AR Y CYD GAN YR ATHRO RICHARD WYN JONES AC EMYR LEWIS
“Rydym yn croesawu’r ffaith fod y Llywodraeth wedi dwyn y gwelliant hwn gerbron. Mae’r datblygiad cyffrous hwn ar y munud olaf yn dangos bod gennym yng Nghymru Lywodraeth sy’n gwrando ar ei phobl ac yn ymateb yn gadarnhaol i farn ei hetholwyr. Diolch i’r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones ac i’r Aelod Cynulliad Bethan Jenkins am eu harweiniad a’u gweledigaeth. Dyma gam hanesyddol sy’n mynd i osod sail gadarn ar gyfer y dyfodol. Eisiau byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg y mae pobol wedi’r cyfan, nid protestio ynghylch yr iaith byth a hefyd. Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn cydnabod yr hyn gyflawnwyd heddiw. Carem ddiolch i bawb sydd wedi bod yn llythyru, yn e-bostio, yn ffonio, ac yn cyfarfod â’r Aelodau Cynulliad er mwyn eu cymell i gefnogi’r egwyddor ganolog o statws swyddogol cyflawn i’r iaith Gymraeg. Bydd pawb yn gallu cysgu’n dawel heno. Wrth gwrs bydd cyfrifoldeb pob copa walltog tuag at y Gymraeg yn parhau a hyderwn y bydd modd i ni i gydweithio gyda’n gilydd i sicrhau dyfodol iach i’n hiaith.”