Mae disgyblion Ysgolion Treganna a Than yr Eos Caerdydd yn cynnal ymarfer olaf eu sioe Nadolig, Oliver, yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw.
Dywedodd Grŵp Ymgyrchu Rhieni Treganna mai’r rheswm dros gynnal yr ymarfer yn y Senedd oedd bod “cryn dipyn mwy o le yno nac yn adeiladau eu hysgol”.
Maen nhw’n bwriadu ymarfer cyn Sesiwn Holi olaf y Prif Weinidog Carwyn Jones cyn y Nadolig, er mwyn pwyso arno i ddatrys sefyllfa orlawn yr ysgolion.
Bydd y disgyblion hefyd yn mynd ag ail lythyr at Carwyn Jones “yn ei wahodd i ddod i weld drosto’i hun yr amgylchiadau y mae’n rhaid iddynt eu dioddef yn ddyddiol”.
“Ym mis Mehefin addawodd y Prif Weinidog i’r disgyblion – pan fuont yn cynnal gwersi yn y Senedd – y byddai’n ymweld ag Ysgol Treganna, ac ailadroddodd yr addewid hwnnw pan gyfarfu â chynrychiolwyr y grŵp ymgyrchu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst,” meddai llefarydd ar ran Grŵp Ymgyrchu Rhieni Treganna.
“Fodd bynnag, nid yw’r ymweliad wedi digwydd hyd yma.”
‘Gorlawn’
Dywedodd Nia Williams, Ysgrifennydd grŵp Ymgyrchu Treganna a Than yr Eos, bod yr ysgolion “yn darparu addysg o’r radd flaenaf, ond mae’r amgylchiadau gorlawn yn her ddyddiol”.
“Mae’n rhaid i ferched a bechgyn adran y babanod yn Nhreganna rannu’r un toiled, ac felly hefyd y staff.
“Nid yw neuaddau’r ysgol yn Nhreganna a Than yr Eos brin yn fwy na choridorau ac yn aml mae’n rhaid i’r plant fwyta cinio oddi ar eu glin.
“Yn Nhreganna, nid yw’r ystafell ddosbarth ar gyfer plant ag anghenion arbennig yn ddim mwy na chwpwrdd ac mae’n warth bod rhaid i’r plant a’r staff ar y naill safle a’r llall ddioddef y fath amgylchiadau yn yr unfed ganrif ar hugain.
“Rydym yn awyddus i weld y Prif Weinidog yn ymweld â’r ysgol cyn gynted â phosib er mwyn iddo weld drosto’i hun yr amgylchiadau gorlawn y bu’n rhaid i lawer o ddisgyblion eu dioddef gydol eu haddysg gynradd oherwydd yr oedi a fu cyn datrys y sefyllfa hon.”
Llun: Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Chris Franks gyda phlant Ysgol Treganna.