Mae sylfaenydd safle we ddadleuol WikiLeaks, Julian Assange, wedi ei arestio gan swyddogion Scotland Yard heddiw.
Arestiwyd y gŵr 39 oed, sy’n hanu o Awstralia, wedi iddo fynd i apwyntiad yng ngorsaf yr heddlu yng nghanol Llundain.
Mae disgwyl y bydd o’n ymddangos o flaen Llys Ynadon Dinas Westminster yn ddiweddarach heddiw.
Dywedodd Llefarydd ar ran Heddlu’r Met fod “swyddogion o uned estraddodi’r Heddlu Metropolitan wedi arestio Julian Assange y bore ’ma, ar ran awdurdodau Sweden, ar amheuaeth o dreisio.
“Arestiwyd Julian Assange, 39, ar Warant Arestio Ewropeaidd wrth iddo fynd i apwyntiad yng ngorsaf heddlu yn Llundain am 9.30am.
“Mae wedi ei gyhuddo gan awdurdodau Sweden o un achos o orfodaeth anghyfreithlon, dau achos o aflonyddu rhywiol, ac un achos o drais.”
Mae’r cyhuddiadau i gyd yn ymwneud â dwy ddynes yr honnir i Julian Assange fod yn gysylltiedig â nhw ym mis Awst 2010.
Roedd yn ymweld â Sweden i annerch cynhadledd gan sefydliad gwleidyddol , gan siarad ar bwnc “rhyfel a rôl y cyfryngau”.